Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddau ladrad yn ardal Waun Wen o Abertawe yn ystod bore Sul.

Fe ddigwyddodd y cynta’ yn siop Premier Store ar Stryd Caepistyll am 8.10yb, a’r ail yn siop Spar, Ffordd Caerfyrddin, toc wedi 8.30yb. Y gred ydi mai’r un dyn oedd yn gyfrifol am y ddau.

Ar y ddau achlysur, fe fynnodd dyn arian parod o’r til, tra’n dal cyllell yn ei law ac yn gwisgo balaclafa am ei ben.

Chafodd dim byd ei ddwyn o’r siop gynta’, lle cafodd ei herio gan y siopwr, ond fe aeth y dyn â swm o arian a chydig o faco o’r siop Spar. Chafodd neb ei anafu.

Disgrifiad o’r dyn  

Mae’r dyn y mae’r heddlu’n chwilio amdano wedi’i ddisgrifio fel stwcyn byr, gydag acen Lerpwl neu Wyddelig. Roedd yn gwisgo hwdi lliw golau, trowsus tywyll, ac roedd yn cario bag du.