Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a threlar lori ar ystad ddiwydiannol yn Nhrefforest neithiwr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 9.20yh nos Sadwrn i gyffordd rhwng Heol Crochendy a Heol y Coleg ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest, lle’r oedd car Ford Fiesta wedi bod mewn gwrthdrawiad â threlar llonydd lori HGV.

Fe gafodd dynes 42 oed ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae’n dal i dderbyn triniaeth yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd. Dyw ei hanafiadau ddim yn rhai sy’n bygwth ei bywyd.

Gall unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif, 101.