Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ben bore heddiw yn Pengam.

Fe gafodd plismyn eu galw tua 5.25yb yn dilyn adroddiadau fod beiciwr wedi bod mewn damwain ar Ffordd Commercial, Pengam.

Mae’r dyn wedi’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn diodde’ o anafiadau sy’n bygwth ei fywyd.

Mae dyn arall, 40 oed, o ardal Pengam wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difridol trwy yrru’n beryglus. Mae wedi cael ei holi, a’i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.