Amgueddfa Cymru
Mae arfau ac offer llaw o’r oes efydd y daethpwyd o hyd iddyn nhw mewn cae yn Sir Fynwy yn ddiweddar wedi cael eu dyfarnu’n ‘drysorau’ swyddogol.

Daeth grŵp yn defnyddio chwilwyr metal o hyd i ddau gasgliad o greiriau, gan gynnwys bwyelli a blaen gwaywffon, yn Llandeilo Gresynni sydd dafliad carreg o safle’r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r eitemau yn deillio o’r cyfnod rhwng 1,000 a 800 Cyn Crist ond mae’n ddirgelwch pam fod y gwrthrychau wedi u claddu yno.

Dirgelwch

Cafodd llawer o wrthrychau efydd cyfan eu claddu yn y ddaear yn ystod defodau,” meddai Adam Gwilt o Amgueddfa Cymru.

“Mae’n ddirgelwch pam fod y lleoliad hwn yn y dirwedd wedi cael ei ddewis fel man claddu i’r ddau gasgliad sy’n dod o’r un cyfnod ac wedi cael eu claddu yn agos iawn at ei gilydd.”

Amgueddfa leol eisiau eu prynu

Mae Amgueddfa’r Fenni yn gobeithio prynu’r eitemau gyda arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

“Mae’r storïau sydd ynghlwm a’r gwrthrychau hyn yn ein cynorthwyo i wybod mwy am y bobl a’r cymunedau a fu’n defnyddio’r rhain,” meddai Curadur yr Amgueddfa, Rachel Rogers.

Mae’r dyfarniad o ‘drysor’ yn golygu mai’r grŵp o chwilwyr fydd yn cael yr arian.