Galwad ar yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams (Llun Democratiaid Rhyddfrydol)
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlen frys i roi diwedd ar ddysgu Cymraeg ail iaith ar ôl cwymp yn nifer y y disgyblion a safodd arholiad Safon Uwch Cymraeg.

Yn ôl ffigurau’r cwmni arholiadau CBAC, roedd nifer y rhai a safodd Lefel A Cymraeg wedi gostwng fwy na 10%, o  678 y llynedd i 610 eleni ac, yn ôl y Gymdeithas, mae hynny’n arwydd o fethiant y drefn.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y dylai ffigurau o’r fath sbarduno gweithredu ac maen nhw’n galw am ddiddymu’r cymhwyster ail-iaith erbyn 2018.

Llythyr

Mae llythyr gnaf y Gymdeithas yn galw ar i yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i ddad-wneud penderfyniad y corff swyddogol Cymwysterau Cymru a dileu’r syniad o Gymraeg ail-iaith er mwyn i bawb astudio’r un pwnc canolog.

“Rydym yn erfyn arnoch i wrth-droi penderfyniad Cymwysterau Cymru i gadw’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith,” meddai llefarydd addysg y Gymdeithas, Toni Schiavone, mewn llythyr at  yr Ysgrifennydd.

“Gallwch chi benderfynu gwrthdroi safbwynt y corff nawr, ac mae gennych chi’r cyfle i wneud hynny. Wedi’r cwbl, pwy arall fydd yn sefyll lan dros y plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg, nid oherwydd eu gallu, ond oherwydd methiannau’r gyfundrefn?”

‘Rhaid cael amserlen’

Mae’r llythyr yn dilyn dwy brotest gydag ymgyrchwyr ar ran y Mudiad yn meddiannu swyddfeydd asiantaeth Cymwysterau Cymru fis diwethaf.

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, hefyd wedi awgrymu y dylai Cymraeg ail iaith ddod i ben ond nawr mae’r Gymdeithas yn galw am ymrwymiad pendant ac amserlen.

“Rhaid cael amserlen er mwyn sicrhau bod yr holl newidiadau cysylltiedig eraill o ran hyfforddi ymarferwyr addysg a dysgu rhagor o bynciau drwy’r Gymraeg yn ein holl sefydliadau addysg yn digwydd,” meddai Toni Schiavone.