John Hartson - chwaraewr sydd wedi siarad yn agored am broblemau gamblo (Stew Jones CCA 3.0)
Mae academydd o Fangor yn rhan o dîm ymchwil sy’n dweud mai pwysau ac ansicrwydd y byd pêl-droed sy’n gyrru rhai chwaraewyr at gamblo.

Roedd yr ymchwil gan y tîm sy’n cynnwys yr Athro Robert Rogers o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor ynn dangos bod chwaraewyr sy’n mynd yn gaeth i’r arfer yn gwneud hynny er mwyn ymdopi â sialensiau fel anafiadau, colli eu lle neu orfod symud ymhell i ymuno â chlwb newydd.

Roedd gamblo, medden nhw, yn aml yn dechrau’n weithgaredd hamdden gyda chwaraewyr eraill ond roedd rhai wedyn yn dechrau gamblo ar eu pen eu hunain oherwydd y pwysau sydd yn rhan o’r gêm.

Gydag academyddion o Lundain a Rhydychen, roeedd yr Athro Rogers wedi cynnal yr ymchwil i sefydliad Addiction Research Theory gan holi pêl-droedwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol sydd wedi wynebu problemau gamblo

Cymorth

Tynnodd yr ymchwil sylw hefyd at rai o’r pethau sy’n rhwystro rhai rhag chwilio am help:

  • Amharodrwydd i gyfadde’ wrthyn nhw eu hunain bod eu gamblo wedi mynd yn broblem.
  • Ofn y byddai dweud am eu trafferthion wrth eu staff hyfforddi’n arwain at golli eu lle yn y tîm cynta’.

Ar y llaw arall, roedd clywed chwaraewyr eraill yn sôn sut y cawson nhw help yn arbennig o effeithiol o ran ysgogi chwaraewyr i geisio cymorth.

Lleihau’r risg

“Dangosodd ein hymchwil nifer o ffactorau a allai leihau’r risg i bêl-droedwyr fynd yn gaeth i gamblo,” meddai Robert Rogers.

“Mae hyn yn cynnwys yr angen i staff a hyfforddwyr mewn clybiau pêl droed fod yn ymwybodol o ddylanwad ymddygiad cyfoedion ar eraill, yn ogystal â’r dylanwad mawr y mae ymddygiad gamblo chwaraewyr hŷn yn ei gael ar chwaraewyr iau.

“Ffactor bwysig arall i’w hystyried yw sut mae clybiau’n delio â chwaraewyr sydd wedi colli eu lle yn y tîm cyntaf oherwydd anaf neu chwarae’n wael, yn ogystal â’r chwaraewyr hynny sydd ar fenthyg i glybiau eraill ac sy’n aml yn teimlo’n ynysig.”