Jade Jones (Llun o wefan British Taekwondo)
Mae’r Gymraes Jade Jones wedi llwyddo i ddal gafael ar y fedal aur yn y Gêmau Olympaidd – yr enillydd unigol cynta’ o Gymru.

Fe lwyddodd i guro Calvo Gomez o Sbaen yn y Taekwondo yn Rio i ailadrodd ei llwyddiant yn Llundain yn 2012.

Enillodd yr athletwraig 23 oed o’r Fflint y rownd derfynol yn eithaf cyfforddus o 16-7 – yng nghystadleuaeth 57kg y merched ddydd Gwer.

Dal y pwysau

Dywedodd Jade Jones, 23, bod y fuddugoliaeth yn teimlo’n “anghredadwy” a “swreal” ar ôl y pwysau o geisio amddiffyn ei theitl.

Dywedodd Jade Jones: “Dyw ennill yn Llundain yn dal ddim yn teimlo’n real felly mae gwneud hyn eto yn wallgo’.

“Dw i mor falch ohona’ i  fy hun oherwydd do’n i ddim yn sylweddoli faint o bwysau y byddwn yn ei deimlo yn dod i’r Gemau hyn.

“Wnes i ddechrau crio cyn y rownd gyn-derfynol oherwydd fy mod i mor nerfus ac yn teimlo cymaint o bwysau. Yn amlwg ro’n i’n gwybod y byswn i’n teimlo rhywfaint o bwysau ond do’n i ddim yn sylweddoli faint.”

Llwyddiannau eraill

Daeth medal aur Jade Jones ar ôl i’r Gymraes Hannah Mills o Gaerdydd ennill medal aur yn yr hwylio gyda’i phartner Saskia Clark.

Wedi i’r brodyr Brownlee – Alistair, 28, a Jonny ,26  – ennill y fedal aur ac arian yn y triathlon, mae cyfanswm y medalau i wledydd Prydain wedi codi bellach i 22 medal aur, 21 arian ac 13 medal efydd.

Bu llwyddiant hefyd i Usain Bolt yn rownd derfynol y 200m. Wrth gipio ei wythfed medal aur dywedodd wrth newyddiadurwyr yn ei ffordd dihafal ei hun ei fod un ras arall – y ras gyfnewid 4x100m – i fynd i gyrraedd anfarwoldeb.