Mae 17 o bobol, gan gynnwys nifer o blant, wedi cael eu hanafu ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau ym Mharc Gwledig Pen-bre yn Sir Gâr.

Cafodd pedwar o bobol, gan gynnwys tri o blant, eu cludo i Ysbyty Glangwili yn dilyn y digwyddiad. Dyw eu hanafiadau ddim yn peryglu eu bywydau, meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r parc am oddeutu 12.30 brynhawn dydd Iau, a chafodd pedwar o blant eraill a naw oedolyn driniaeth ar y safle.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae disgwyl i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad hefyd.