Glass Butter Beach (llun hyrwyddo)
Roedd hi’n amhosib i Gyngor Gwynedd orfodi trefnwyr gŵyl gerddoriaeth a syrffio i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg wrth hyrwyddo a hysbysebu eleni, a hynny oherwydd nad ydyn nhw wedi rhoi cefnogaeth ariannol i’r digwyddiad.

Mewn ymateb i stori gynharach yn y dydd gan golwg360, lle’r oedd dau gynghorydd yn cwyno am brinder Cymraeg ar faneri a phosteri’r ŵyl a fydd yn cael ei chynnal yn Llanbedrog dros y penwythnos, dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym yn gwneud popeth posib i hyrwyddo’r Gymraeg ac yn annog defnydd yr iaith gan bartenriaid a chyrff eraill sy’n gweithredu yn y sir a thu hwnt.

“Pan mae trefnwyr digwyddiadau yn derbyn cefnogaeth ariannol gan y Cyngor, mae amod penodol yn cael ei osod eu bod yn defnyddio’r Gymraeg wrth hyrwyddo eu digwyddiad. Rydym hefyd yn trafod pwysigwrydd defnyddio’r iaith Gymraeg gyda threfnwyr digwyddiadau ac yn annog eu defnydd o’r iaith, a byddwn yn parhau i annog trefnwyr digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Ngwynedd i sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg.

“Ar hyn o bryd, nid yw Deddf Trwyddedu 2003 yn galluogi cynghorau i fynnu ar amod penodol fod trefnwyr gwyliau yn defnyddio’r Gymraeg wrth hyrwyddo eu digwyddiadau.”

Nid ydi Cyngor Gwynedd wedi darparu cefnogaeth ariannol i ŵyl Glass Butter Beach eleni.