Y canabis yn Llanfachraeth (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd ynglyn â phlanhigion canabis a ganfuwyd yn tyfu yng ngogledd Ynys Môn.

Roedd y dail sy’n bosib eu crasu a’u malu’n fân a’u hysmygu fel baco, yn ffynnu ar dir diffaith ger pentre’ Llanfachraeth, dim yn bell o’r Fali.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y canabis i’w ffonio ar y rhif 101.