Glass Butter Beach (llun hyrwyddo)
Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth, syrffio a thonfyrddio ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn wedi amddiffyn eu defnydd o’r Gymraeg ar ddeunydd hyrwyddo, er bod ymgyrchwyr iaith wedi bod yn ymosod ar eu posteri a’u baneri sydd bron â bod yn uniaith Saesneg.

Mae llefarydd ar ran gŵyl Glass Butter Beach yn Llanbedrog wedi dweud wrth golwg360 bod llawer o’u posteri’n ddwyieithog ond eu bod yn “gwerthfawrogi nad yw’r gymhareb rhwng y Saesneg a’r Gymraeg yn gant y cant” a’u bod yn “deall pam mae hyn wedi achosi rhwystredigaeth”.

Roedd yr ymgyrchydd iaith Simon Brooks a phencampwr iaith Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ap Iago, wedi mynd ar y gwefannau cymdeithasol er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad oedd y Gymraeg i’w gweld ar bosteri a baneri sydd wedi cael eu gosod o amgylch y sir i hyrwyddo’r ŵyl.

Ond mae llefarydd ar ran Glass Butter Beach yn mynnu eu bod yn “gefnogol iawn o’r gymuned Gymraeg” a’u bod yn “gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl arwyddion yn yr ŵyl yn ddwyieithog”. Ychwanegodd eu bod hefyd yn ceisio sicrhau bod llawer o “fanteision cymdeithasol ac economaidd” i’r gymuned leol yn sgil yr ŵyl.

Meddai’r llefarydd: “Yr ydym yn sicr yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl arwyddion yn yr ŵyl yn ddwyieithog a byddwn yn edrych eto i sicrhau fod y gymhareb hon yn cael ei gywiro ar bob deunydd marchnata wrth i ni symud ymlaen ac wrth i’r ŵyl dyfu bob blwyddyn. Mae gŵyl Glass Butter Beach yn gefnogwr mawr o’r gymuned Gymraeg.

“Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yng Nghymru ac mae ein swyddfeydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod llawer o fanteision cymdeithasol ac economaidd i’r gymuned leol, gan gynnwys y defnydd o gludiant lleol fel tacsis a threnau, y defnydd o lety o amgylch yr ardal – o westai a llefydd gwely a brecwast i safleoedd carafanau a bythynnod gwyliau – ac mae’r cynnydd cyffredinol yn nifer yr ymwelwyr ar draws y tri diwrnod mewn siopau lleol, bwytai a busnesau eraill.”

‘Iaith fyw’

Meddai Simon Brooks ar Facebook: “Mae yna ddegau a degau o’r posteri a’r baneri hyn ar gylchfannau, goleuadau traffig, bythau ffôn etc. ar hyd a lled Gwynedd.

“Da ni’n ceisio cyfleu fod yr iaith Gymraeg yn iaith fyw yn y sir hon, ac mae arna i ofn fod yr holl hysbysebu hyn ar ran un ŵyl yn unig yn gwneud drwg i’r arfer o hysbysebu digwyddiadau yn y sir yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.”

Yr ŵyl

Mae disgwyl 5,000 o bobol yn yr ŵyl eleni i glywed perfformiadau byw gan Wolf Alice, Kodaline, Katy B, Mystery Jets, Jamie Lawson, Andy C, Naughty Boy a llawer mwy.

Ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yn ystod yr ŵyl mae syrffio, tonfyrddio, sglefrfyrddio, rhwyf-fyrddio a phêl-foli traeth.