Nathan Gill (Llun: UKIP)
Mae arweinydd plaid UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y grwp ac yn eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol ym Mae Caerdydd.

Fe ddaw hyn wedi wythnosau o drafod a dadlau pa un a ddylai gael ei ddiarddel o’r blaid am wrthod rhoi’r gorau i un o’i ddwy swydd – fel AC, neu fel Aelod o Senedd Ewrop.

Meddai mewn datganiad heddiw: “Wedi llawer o bendroni, rydw i wedi penderfynu torri i ffwrdd oddi wrth grwp UKIP yn y Cynulliad, ac eistedd fod aelod annibynnol,” meddai Nathan Gill.

“Mae gormod o amser wedi cael ei wastraffu ar gecru a chwffio mewnol tros faterion na allwn ni gytuno arnyn nhw, ac mae wedi tynnu oddi ar y gwaith yr ydyn ni wedi’n hethol i’w wneud.

“Rydw i’n parhau’n aelod y blaid yng Nghymru, a dw i wedi ymrwymo i wasanaethu fy etholwyr.”

Neil Hamilton yw arweinydd grwp UKIP yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.