Mae cyfranddaliadau cwmni yswiriant o Gaerdydd wedi dod o dan bwysau oherwydd Brexit ac yn dilyn cyhoeddi elw hanner blwyddyn gwannach na’r disgwyl.

Dywedodd Admiral, sydd hefyd yn berchen ar wefan cymharu prisiau Confused.com, bod y bleidlais i adael yr UE wedi effeithio ar y cwmni a rhybuddiodd y galla’i Brexit gael effaith bellach.

Roedd elw cyn treth Admiral i fyny 4% i £189.5 miliwn yn chwe mis hyd at 30 Mehefin ond roedd hynny’n llai na disgwyliadau’r Ddinas.

Mae cyfranddaliadau’r cwmni wedi gostwng cymaint â 8% er gwaethaf sicrwydd dros ei gryfder ac er eu bod wedi rhyddhau £33 miliwn o daliadau difidend yn ychwanegol i gyfranddalwyr.

Mae’r grŵp hefyd wedi rhybuddio y gallai Brexit weld cwmnïau ariannol yn y DU yn colli’r hawl i fasnachu yn Ewrop os bydd trefniadau presennol DU yn cael eu dileu.