Dechreuodd mwy o bobol nag erioed o’r blaen dderbyn triniaeth am ganser o fewn yr amser targed o 62 diwrnod ym mis Mehefin.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ar gyfer y mis, dechreuodd 86.5% o gleifion dderbyn triniaeth fel achosion brys lle’r oedd amheuaeth o ganser.

Dechreuodd 97.4% o gleifion nad oedden nhw’n achosion brys dderbyn triniaeth o fewn yr amser targed – y nifer fwyaf ers mis Rhagfyr y llynedd.

Yn gyffredinol, ym mis Mehefin gwelwyd y nifer uchaf o bobl yn dechrau cael triniaeth am ganser yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, Vaughan Gething: “Mae mwy o bobl nag erioed yn dechrau cael triniaeth am ganser yng Nghymru a mwy o bobl nag erioed hefyd yn goroesi’r clefyd, diolch i’n Gwasanaeth Iechyd.

“Fodd bynnag, rwy’n disgwyl i’r byrddau iechyd barhau gyda’u hymdrechion i gyrraedd y targedau anodd hyn.

“Rydw i am ddiolch i holl staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yn medru dechrau ar eu triniaeth yn brydlon.”