Mae’r ffordd mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru’n cyfathrebu â dioddefwyr troseddau yn “wael” yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Fe wnaeth arolygwyr ddarganfod nad oedd dioddefwyr trosedd neu eu teuluoedd mewn profedigaeth yn cael unrhyw wybodaeth am achosion llys yn aml.

Ond yn ôl y corff sy’n arolygu’r CPS farn bod y gwasanaeth yn sicrhau gwerth am arian ar gyfer defnyddwyr ei gwasanaethau.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn “dda” am reoli perfformiad a pharatoi achosion.

Dywedodd Ed Beltrami, prif erlynydd y goron ar gyfer Cymru, bod eu cyfraddau euogfarn yn y Llysoedd Ynadon a Llysoedd y Goron yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a bod yr adroddiad yn cydnabod bod CPS Cymru “yn darparu canlyniadau da ac yn cynnig gwerth am arian.”

Ond mae’n cydnabod bod llefydd i wella a’u bod eisoes yn gweithio’n galed i sicrhau bod ansawdd y cyfathrebu gyda dioddefwyr a thystion “o safon uchel ac yn diwallu anghenion yr unigolyn.”