Llys y Goron Caerdydd
Mae dynes o Gaerdydd wedi ei chael yn ddieuog o achosi marwolaeth beiciwr modur trwy yrru’n ddiofal.

Penderfynodd rheithgor heddiw fod Louise Ballinger, 38, yn ddieugo o’r cyhuddiad yn ei herbyn yn Llys y Goron Caerdydd.

Bu farw Mark Riley yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar Ffordd Crwys yn y brifddinas ym mis Medi 2015.