Mae priffordd yr A55 wedi cau i gyfeiriad y dwyrain, wedi damwain ffordd yng nghyffiniau Bae Colwyn.

Mae car wedi taro’r llain ganol, ac mae ceir i’w gweld yn ciwio rhwng cyffyrdd 20 (yr A547) a’r B5115.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod traffig ar stop i gyfeiriad y dwyrain.