(Llun: Gwasanaeth Ambiwlans)
Fe ddaeth cadarnhad gan Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru fod dyn wedi’i gludo i’r ysbyty yn dilyn damwain ddiwydiannol yn y gogledd-ddwyrain.

Fe dderbyniodd y gwasanaeth ambiwlans alwad am 1.35yp heddi, i ardal Cross Lanes yn Wrecsam.

Er nad oes gwybodaeth bellach ar gael am gyflwr y dyn a gafodd ei anafu, mae wedi’i gludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, am driniaeth.