Llun: Cyngor Castell Nedd Port Talbot
Mae’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd sbon gwerth £40m ym Mhort Talbot wedi dod i ben yn swyddogol heddiw.

Ac mae’r cwmni adeiladu Bouygues UK wedi trosglwyddo’r cyfrifoldeb amdani i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Bydd yr ysgol yn agor ei drysau i ddisgyblion cynradd ac uwchradd rhwng 3 ac 16 oed o fis Medi ymlaen, ac mae lle i 1,500 o ddisgyblion ynddi.

Mae’r prosiect yn golygu uno’r ysgolion canlynol; Ysgol Gymunedol Cwrt Sart, Ysgolion Cyfun Glan Afan a Sandfields ac Ysgol Gynradd Traethmelyn.

‘Y gwaith wedi’i rannu’n lleol’

“Mae’r ysgol newydd wych hon yn un y gallwn oll fod yn hynod falch ohoni, a hoffwn ganmol ymdrechion pawb a fu’n rhan o’i hadeiladu,” meddai Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas.

Mae’r campws wedi’i ariannu ar y cyd rhwng rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn ogystal â Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Cafodd contractau gwerth £15m eu dosrannu i fusnesau lleol, gyda chwmnïau eraill yng Nghymru yn sicrhau gwerth £17m o waith, sy’n golygu bod 90% o’r contractau wedi’u dyfarnu i fusnesau yng Nghymru.