Mae ymgyrchwyr wedi codi pryderon am ddiogelwch gynnau Taser ar ôl yr ail farwolaeth mewn dau fis.

Bu farw cyn bêl droediwr Aston Villa, Dalian Atkinson, tua awr a hanner ar ôl iddo gael ei saethu gan wn Taser gan yr heddlu tra’n ymweld â chartref ei dad yn Telford, Sir Amwythig, yn ystod oriau mân fore dydd Llun.

Ym mis Mehefin, bu farw’r cyn filwr Spencer Beynon wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu yn Llanelli wedi iddo drywanu ci ac yna ei hun.

Dywedodd Deborah Coles, cyfarwyddwr elusen Inquest sy’n cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth wedi marwolaethau yn y ddalfa: “Mae ‘na lawer yn anesmwyth am y peryglon o hyd, yn enwedig i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd o dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol neu sydd â chyflyrau ar y galon.

“Dylai defnydd yr heddlu o arfau, boed o’n wn Taser neu’n ddryll, wastad bod y dewis olaf. Os oes gennych arfau, y perygl yw eich bod yn dibynnu arnynt ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n rhy gyflym.”

Dywedodd cyfreithiwr, Sophie Khan, y dylai swyddogion gael eu hyfforddi i anelu gwn Taser at y coesau a’r breichiau yn hytrach na’r frest tra bod diogelwch gynnau Tasers yn cael ei archwilio.

Roedd hi’n cynrychioli James McCarthy aeth a Heddlu Glannau Mersi i’r llys am yr oedi mewn triniaeth feddygol wedi iddo ddioddef trawiad ar y galon pan gafodd ei saethu gan wn Taser yn y frest yn 2012.

Meddai Sophie Khan: “Mae’r newyddion bod dyn wedi marw ar ôl y defnydd o Taser yn annerbyniol o ystyried bod yr heddlu yn gwybod y gall gwn Taser achosi trawiad ar y galon.”