Mae tri o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, wedi i garreg ddisgyn ar ddau ohonyn nhw ar lethrau Tryfan yn Eryri ddoe (dydd Sul).

Yn ôl adroddiadau, mae bachgen 12 oed wedi anafu’i law yn y digwyddiad, ac mae dyn 19 oed wedi brifo’i ben.

Mae’r ddau wedi derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.