Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddamwain ffordd a ddigwyddodd ar ffordd fynydd yr A4069 rhwng Llangadog a Brynaman nos Sul.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Kawasaki ZX1000 a dafad, tua 5.55yp.

Mae un dyn, 45 oed, o Gwm Tawe, wedi’i anafu’n wael, ac mae wedi’i gludo i Ysbyty’r Waun, Caerdydd, lle mae mewn cyflwr critigol.

Mae’r heddlu’n apelio ar i dystion gysylltu â nhw ar y rhif, 101.