Mae’r gantores, Kizzy Crawford, yn apelio am help i ddod o hyd i’w gitâr newydd a ddiflannodd tra’r oedd hi’n recordio fideo ar gyfer un o’i chaneuon.

Mewn dwy neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r gantores yn dweud ei bod hi’n drist ar ôl canfod fod yr offeryn newydd wedi’i “gymryd” neu “ei ddwyn” yn ochrau Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr ddoe.

Toc cyn 6 o’r gloch neithiwr, roedd hi’n dweud pa mor drist oedd hi bod “fy gitâr Martin newydd, hyfryd, wedi’i chymryd/dwyn tra’r o’n i’n saethu fideo cerddorol yn Merthyr…”

Yna, mewn ail neges, ddau funud yn ddiweddarach, meddai’r gantores: “Plis rhannwch ac ail-drydar er mwyn fy helpu i ddod o hyd i fy @MartinGuitar newydd sydd newydd ei chymryd/dwyn o Merthyr Mawr.”