Mae digrifwr sy’n byw yng Nghaerdydd wedi ennill Gwobr Comedi Newydd Radio’r BBC.

Fel rhan o’i wobr, mae Jethro Bradley, sy’n enedigol o Windsor, yn ennill £1,000 a chomisiwn ar gyfer sgript 15 munud.

Bydd e hefyd yn cael ei fentora am flwyddyn gan adran gomedi’r BBC.

Cafodd y rownd derfynol ei darlledu’n fyw o Ŵyl Caeredin ar Radio 4 nos Sul.

Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Peter Kay, Shappi Khorsandi, Alan Carr, Sarah Millican, Lee Mack, Russell Howard a Josie Long.

Yn ddigrifwr ers tair blynedd, fe wnaeth Jethro Bradley ei enw fel digrifwr yn Llundain cyn mynd ymlaen i fod yn enw adnabyddus ar y sîn gomedi ar hyd a lled Prydain.

Yn ddiweddar, fe enillodd wobr stand-yp Gymreig ar gyfer digrifwyr nad ydyn nhw’n gysylltiedig ag asiantaeth.

Swreal

Ar ôl ennill, dywedodd Jethro Bradley: “Rwy’n teimlo braidd yn swreal. Mae fel pe bai y galle fe fod yn digwydd i rywun arall sy wedi benthyg fy nghorff a fy enw!

“Mae ennill y wobr hon yn ddilysrwydd ar ôl treulio rhan helaeth o’m bywyd mewn aml i selar rhyfedd mewn tafarnau, yn stryffaglu ochr yn ochr â nifer o bobol ddawnus eraill fyddai hefyd am fod yn sefyll yma heno…

“Felly mae’n dipyn o glod a gobeithio ei fod yn golygu y bydda i’n gallu gwneud llawer iawn mwy o gomedi.”