Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi enwau busnesau yng Nghymru sydd wedi methu â thalu’r isafswm cyflog cenedlaethol i weithwyr.

Mae’r cwmnïau mewn dyled o bron i £4,000 mewn ôl-ddyledion i bedwar gweithiwr, yn ôl cyhoeddiad a wnaed ddydd Gwener gan Weinidog Busnes San Steffan, Margot James.

Mae gan Mobile Buddy Ltd, Abertawe, ôl-ddyled o £1,162.77 i un gweithiwr; mae gan Gwynedd Electrical Contractors Ltd, Sir Fôn, ôl-ddyled o £1,625.92 i un gweithiwr; mae gan  M. J. Electrical. Services. Ltd., Abertawe, ôl-ddyled o £410.00 i un gweithiwr; ac mae gan Automaster (South Wales) Ltd, Pontyclun, ôl-ddyled o £770.56 i un gweithiwr.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae 197 o gwmnïau wedi cael eu henwi ac mae ganddyn nhw ddyledion o £465,291 mewn ôl-daliadau.

Mae’r gweithwyr wedi derbyn pob ceiniog o’r arian sy’n ddyledus iddyn nhw’n ôl.

Ers i’r cynllun gael ei gyflwyno ym mis Hydref 2013, mae 687 o gyflogwyr wedi cael eu henwi, gyda chyfanswm ôl-ddyledion o fwy na £ 3.5 miliwn.

Dywedodd Margot James: “Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o adeiladu economi sy’n gweithio i bawb, nid yn unig i’r rhai breintiedig.

“Mae hynny’n golygu sicrhau bod pawb yn derbyn y cyflog sy’n ddyledus iddyn nhw. Nid yw’n dderbyniol bod rhai cyflogwyr yn methu â thalu o leiaf yr isafswm cyflog i’w gweithwyr.”