Owain Doull - y Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur Olympaidd (Llun: Wikipedia/Jeremy Jannick)
Owain Doull yw’r Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, a hynny fel aelod o bedwarawd yr ymlid beics yn Rio de Janeiro

Dyma’r trydydd tro o’r bron i Brydain ennill y fedal aur yn y gamp hon, yn dilyn eu llwyddiant yn Llundain bedair blynedd yn ôl ac yn Beijing yn 2008.

Curodd Prydain Awstralia yn y rownd derfynol, gan dorri record y byd wrth orffen y ras 4km mewn tair munud, a 50.265 o eiliadau.

Y tri aelod arall o’r tîm oedd Ed Clancy, Steven Burke a Syr Bradley Wiggins, sydd bellach wedi ennill mwy o fedalau nag unrhyw Brydeiniwr arall yn hanes y Gemau Olympaidd (wyth – gan gynnwys pum medal aur).

Ar ddiwedd y ras, dywedodd Doull wrth Radio Cymru: “Sai’n gallu rhoi e mewn geiriau i fod yn onest.

“I mynd mewn i’r ffeinal yn nabod basen ni’n dda, a basen ni probably yn ennill ond basen ni’n agos i’r Australians…

“I ennill mor scrappy ond record y byd yn y ffeinal… Mae hwn yn popeth chi eisiau mewn team pursuit final i ennill.

“O’n ni wedi mynd allan mor galed ag o’n ni wedi o’r blaen. O’n ni’n gwybod basen nhw angen mynd allan yn galed i trio cracio ni. Ond o’n ni gyda cryfder yn y diwedd.”

Wrth groesawu’r dathliadau, dywedodd Doull: “Mae hanner y Velodrome gyda Union Jacks… sbesial.”