Mae dyn lleol yn ei ugeiniau wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn damwain draffig ym mhentref  Pentraeth yn Ynys Môn yn ystod oriau mân y bore.

Dywedodd Sarjant Tony Gatley ar ran Heddlu’r Gogledd: “Toc ar ôl 2.15am fore heddiw, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Bentraeth lle roedd gwrthdrawiad traffig difrifol ar yr A5025 a oedd yn cynnwys car Ford Mondeo du, gyda’r deiliad, yn ddyn lleol yn ei ugeiniau, wedi dioddef anafiadau difrifol sydd am newid ei fywyd am byth.”

Cyhoeddodd yr Heddlu fod ymchwiliad wedi ei lansio, ac maen nhw’n gofyn i unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd, neu wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad neu ddigwyddiadau yn arwain at y gwrthdrawiad, i gysylltu ar 101 neu trwy Taclo’r Taclau  ar 0800 555 111 gan roi y rhif cyfeirnod U120121.