Elfed Roberts
Mae Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi dweud ei fod yn “siomedig iawn iawn” bod y BBC “wedi eistedd” ar stori am sylwadau’r Archdderwydd ynghylch cynnwys y tîm pêl-droed cenedlaethol yn Yr Orsedd.

Ond mae’r BBC wedi amddiffyn eu penderfyniad i oedi am dair wythnos cyn cyhoeddi’r stori gan ddweud bod y sylwadau wedi ymddangos “yn union fel y cawsant eu dweud”.

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol bu ffrae fawr am sylwadau’r Archdderwydd i’r BBC ynghylch anrhydeddu carfan Chris Coleman.

Fe gafodd geiriau Geraint Lloyd Owen, nad oedd modd cynnwys carfan bêl-droed Cymru yn Yr Orsedd, eu trafod yn helaeth ac fe gafodd y ffrae ei bedyddio yn Gorseddgate.

Roedd yr Archdderwydd wedi gwneud y cyfweliad nôl ym mis Mehefin, meddai Elfed Roberts, “ac mi eisteddodd y BBC ar y stori a pheidio ei rhyddhau hi tan ddydd Iau [Gorffennaf 28] er mwyn cychwyn Steddfod efo stori oedd, yn ein barn ni, yn stori negyddol iawn iawn – o gofio fy mod i, ymhell cyn i dîm pêl-droed Cymru ddod nôl i’r wlad o Ffrainc, wedi cysylltu efo Ian Gwyn Hughes ac wedi nid yn unig llongyfarch y tîm pêl-droed… ond hefyd wedi gofyn am drafodaeth ynghylch sut y gallwn ni ddatgan ein llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd ar faes y Steddfod.”

“Siomedig iawn iawn”

Roedd rhai eisiau cynnwys y chwaraewyr yn Yr Orsedd am iddyn nhw genhadu dros Gymru a’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol yn yr Ewros.

Ond roedd eraill yn nodi bod y dedlein ar gyfer enwebu i’r Orsedd wedi cau fis Chwefror, ac nad oedd modd cynnwys carfan gyfan o bobol.

“Yr hyn sy’n bwysig i’w ailadrodd ydy na chafodd yna neb ei wrthod oherwydd chafodd yr un ohonyn nhw eu henwebu,” meddai Elfed Roberts.

“Mi’r oedden ni’n siomedig bod Y Wasg wedi gwneud cymaint o’r stori.

“Mi’r oedd adran Gymraeg a Saesneg newyddion y BBC, yn ogystal â Wales Online, wedi gwneud cyn gymaint ag y medran nhw o’r stori.

“Mae’r ffaith fod newyddion y BBC… wedi eistedd ar y stori am dair wythnos, mi oedd hwnna yn siomedig iawn iawn.”

Ymateb y BBC

Dywed llefarydd ar ran BBC Cymru: “Fel rhan o baratoadau adran newyddion BBC Cymru at Eisteddfod Y Fenni, casglwyd nifer o gyfweliadau gydag unigolion allweddol i’r ŵyl gan gynnwys yr Archdderwydd. Yn ystod y cyfweliad, fe wnaed yn glir na fyddai’r cyfweliad yn cael ei ddefnyddio yn syth ac y byddai’n cael ei gyhoeddi ar drothwy’r Eisteddfod.

“Mae cyfweliadau fel hyn yn rhan annatod o’r gwaith o gynllunio a pharatoi at ddigwyddiadau mawr ac fe ymddangosodd y sylwadau yn union fel y cawsant eu dweud.”

Pafiliwn newydd y Brifwyl “yn eithriadol o lwyddiannus” meddai Elfed Roberts yng nghylchgrawn Golwg.