Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu galwad i sefydlu coleg addysg bellach cyfrwng Cymraeg yn y de ddwyrain.

Roedd y BBC yn adrodd ben bore heddiw bod John O’Shea, pennaeth Coleg Merthyr, wedi dweud y byddai hynny’n un ffordd o geisio cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r galwadau, tra’n galw am feddwl yn greadigol er mwyn annog siaradwyr ifanc i deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus yn defnyddio’r iaith y tu allan i’r gwaith neu amgylchedd dysgu.

Dywedodd llefarydd y blaid dros addysg, Suzy Davies AC: “Mae ffigurau diweddar wedi tynnu sylw at ddirywiad yn y defnydd bob dydd o’r Gymraeg mewn rhannau o’r wlad, ac i wyrdroi’r duedd hon rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru fod yn barod i feddwl yn greadigol.

“Mae Llafur Cymru yn enwog am lansio ymgynghoriadau, ond os ydynt yn ddifrif am gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yna mae angen iddynt gynnig amrywiaeth ehangach o gyfleoedd i astudio a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc.

“Byddai sefydlu coleg rhanbarthol yn Ne Ddwyrain Cymru yn gam cyffrous, ond mae angen i ni hefyd yn edrych ar ffyrdd i helpu pob person ifanc i deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus cyfathrebu yn Gymraeg y tu allan i’r amgylchedd addysg.”