Fe allai’r gwaith o godi trydedd pont dros afon Menai ddechrau o fewn pum mlynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd ymgynghorwyr yn cael eu cyflogi yn ddiweddarach eleni i astudio llwybrau arfaethedig ar gyfer trydedd bont rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.

Yn ogystal, byddant yn edrych ar opsiynau ariannu ar gyfer y prosiect seilwaith uchelgeisiol.

Ar hyn o bryd, mae dau groesfan o’r tir mawr i Ynys Môn – Pont Britannia a Phont Menai – ond mae problemau traffig yn aml ac mae Pont Britannia ar gau i loriau mewn gwyntoedd cryf.

Gall gwaith ddechrau yn 2021

Meddai’r llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ar hyn o bryd yn y broses o benodi ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth ar ddewis llwybrau posib ar gyfer trydydd croesfan dros y Fenai.

“Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso opsiynau amrywiol, cynlluniau ar gyfer y trydydd pont ac ymgynghoriad cyhoeddus.

“Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2021 yn amodol ar dderbyn y caniatâd statudol angenrheidiol.”

‘Hen bryd’

Dywedodd Russell George AC o’r Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi’n hen bryd i’r prosiect fod ar flaen yr agenda a bod y problemau presennol yn boen i yrwyr ac yn niweidiol i economi Ynys Môn.

Meddai: “Mae’n hen bryd dechrau ar y prosiect hwn. Mae’r drydedd bont wedi bod ar yr agenda am fwy na degawd ac awgrymodd ymgynghoriad yn 2007, a gomisiynwyd gan Lywodraeth clymblaid Llafur a Plaid Cymru, wyth o opsiynau i leddfu problemau traffig ar y bont Britannia. Ond eto, gwnaethpwyd dim gan Lywodraeth Cymru.

“Ar hyn o bryd, mae’r problemau traffig yn rhwystredig iawn i yrwyr ond hefyd yn rhwystr sylweddol i ddatblygiad economaidd Ynys Môn.

“Mae’r amser am gyhoeddiadau ar ben – camau gweithredu sydd eu hangen yn awr.”