Fe gafodd 29,204 o blanhigion canabis eu cymryd gan yr awdurdodau yng Nghymru yn 2014/15 yn ôl ystadegau a gyhoeddir heddiw.
Mae’r ffigyrau, sydd wedi’u dadansoddi gan y cwmni yswiriant Directline for Business, yn dangod bod 366,841 o blanhigion wedi cael eu cipio gan awdurdodau yng Nghymru a Lloegr dros yr un cyfnod – mwy na 1,000 y diwrnod.
Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr gipiodd y nifer uchaf o blanhigion – mwy na 54,700 – gyda Heddlu Greater Manchester yn ail ar 41,569.
Dywedodd Direct Line for Business bod ffermio canabis mewn tai rhent yn broblem fawr i landlordiaid oherwydd y difrod y mae’n ei achosi i eiddo.
Meddai Nick Breton o’r cwmni yswiriant: “I landlordiaid, mae cytundeb tenantiaeth gyda thenant yn gofyn am swm penodol o ymddiriedaeth na fyddant yn achosi difrod sylweddol i eiddo.
“Fodd bynnag, fel y dadansoddiad hwn yn dangos, mae ffermio canabis yn dal i fod yn broblem fawr yng Nghymru a Lloegr a gall bod ôl-effeithiau difrifol i landlordiaid.”