Mae fideo gan fam yn apelio ar sglefyrddwyr i wisgo helmedau wedi cael ei wylio gan dros filiwn o bobol.

Fe gafodd Georgia Fairthorne, 19, anafiadau difrifol i’w phen pan ddisgynnodd oddi ar ei sglefwrdd wrth ymweld â theulu yn Sir Benfro.

Cafodd y ferch, o Bournemouth, Dorset, ei rhoi mewn coma ar ôl y ddamwain dydd Gwener diwethaf yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae bellach wedi cael llawdriniaeth ar ei hymennydd.

Fe wnaeth ei mam, Emma Fairthorne, recordio’r fideo y tu allan i’r ysbyty cyn ei roi ar Facebook.

Mewn dagrau, fe alwodd ar rieni i “gymryd gofal” a sicrhau bod eu plant yn gwisgo helmedau.

“Mae’n wyliau haf a dw i’n gwybod bod hi ddim yn cŵl i wisgo helmed. Doedd dim un gennym ni oedd yn ffitio Georgia ond nes i ddim meddwl. Wnaeth hi ddim mynd lawr bryn anferth” meddai.

“Dw i ddim yn gwybod pa fath o ansawdd bywyd fydd hi’n ei gael, os bydd hi’n goroesi’r dyddiau nesaf, fy merch brydferth, brydferth.

“Dylai hi ond fod wedi torri ei phigwrn neu ei harddwn neu gael ychydig o friwiau, dim llawdriniaeth ar ei hymennydd a gofal dwys.

Mewn datganiad pellach dydd Mercher, dywedodd Emma Fairthorne fod ei merch mewn cyflwr “sefydlog” ac yn “gyfforddus.”