Mae pentref Portmeirion wedi cadarnhau bod mwy o ymwelwyr wedi bod yno eleni o ganlyniad i’r gêm gyfrifiadurol, Pokémon Go.

Mae’n debyg bod gan y pentref ymwelwyr ‘Pokémon’ arbennig yn cuddio rhywle a bod hynny wedi denu mwy o bobol yno dros yr ha’ eleni.

Nod y gêm yw chwilio am gymeriadau Pokémon trwy ddefnyddio camera ffôn clyfar a chipio’r cymeriadau drwy eu hychwanegu i’ch casgliad. Mae’r gêm yn boblogaidd iawn, gyda phobol o bob oedran yn cymryd rhan ledled y byd.

Does dim ffigurau pendant gan Bortmeirion am nifer yr ymwelwyr sydd wedi bod er mwyn chwarae’r gêm ond bod y staff wedi sylwi ar nifer fwy o bobol “ar eu ffonau’n chwarae.”

‘Pobol â’u pennau i lawr’

“Rydan ni wedi sylwi bod ‘na mwy o bobol yn rhoi eu pennau i lawr yn edrych ar eu ffonau i chwarae,” meddai Meurig Jones, rheolwr lleoliad Portmeirion.

“Roedd yna un teulu a gafodd taith (o amgylch y pentref) mewn golf buggy, ac oedd y plant yn y cefn, ac oeddan nhw’n dal y Pokémon fel oeddan ni’n mynd o gwmpas yn y buggy, oeddan nhw wrth eu boddau efo hynny.

“Mae pawb yn mynd ar ei ôl o (y gêm), ac i fod yn onest, dw i’n meddwl ei fod yn beth da achos mae’n cael pobol allan o’r tŷ.

“Mae pawb yn cwyno dyddiau yma bod plant yn aros yn eu tai, ac mae hwn yn eu cael nhw allan eto.”

Mae pob oedolyn yn talu £11 i fynd i Bortmeirion am y diwrnod a chost tocyn plentyn yw £8 yr un.

Castell Penrhyn

Ac yng Nghastell Penrhyn ym Mangor, mae staff yno hefyd wedi sylwi bod mwy o deuluoedd o gwmpas y lle, gyda’r plant yn bennaf yn chwarae Pokémon Go.

Mae gan y Castell “gampfa” i’r Pokémon, lle gall chwaraewyr fynd yno i hyfforddi a chryfhau eu cymeriadau.

Mae hyn, meddai llefarydd, wedi denu mwy o deuluoedd at y Castell, sy’n costio £11.30 yr un i oedolion a £5.65 yr un i blentyn fynd i mewn.

Doedd dim ffigurau pendant gan Gastell Penrhyn chwaith gan ei fod yn “anodd gwybod” faint yn union sy’n cael eu denu yno gan y gêm.