Fe brofodd dau o bob tri gyrrwr a gymrodd brawf cyffuriau gan heddluoedd Cymru yr haf hwn, yn bositif i yrru car dan ddylanwad.

Mae ystadegau Ymgyrch Cymru Gyfan ar gyfer y cyfnod rhwng Mehefin 10 a Gorffennaf 10 eleni, yn dweud fod 199 prawf cyffuriau wedi’u cynnal, a bod 131 yn bositif ar gyfer cyffuriau.

Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, gweinyddwyd 9,532 prawf anadl yng Nghymru, ac roedd 313 o’r profion hynny’n bositif, neu roedd y rhai a stopiwyd wedi gwrthod neu fethu darparu sampl.

O ran y profion cyffuriau, cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys 23 prawf cyffuriau, ac roedd 11 yn bositif. Cynhaliodd Heddlu Gwent 65 prawf cyffuriau, ac roedd 39 yn bositif; yn ardal Heddlu De Cymru  51 prawf cyffuriau, ac roedd 45 yn bositif; ac yn y Gogledd cynhaliwyd 60 prawf, a 36 yn bositif.

Dim yn dderbyniol 

Dywedodd Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch y Ffyrdd Cymru: “Mae ein negeseuon yn glir drwy gydol yr ymgyrch nad yw cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru’n dderbyniol, ac ni fydd yn cael ei oddef.

“Yn ogystal, gwnaeth y gwasanaethau heddlu ddefnydd effeithiol o’r ddeddfwriaeth newydd o dan Adran 5a, gan wneud cryn dipyn o arestiadau yn ystod yr ymgyrch.

“Mae’r rhai sy’n torri’r gyfraith yn hunanol yn peryglu eu hunain, ac, yn bwysicach, defnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae cymryd cyffuriau neu yfed a gyrru’n difethaf bywydau drwy gydol y flwyddyn a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos â’r Heddlu er mwyn atgyfnerthu’r negeseuon hyn drwy gydol y flwyddyn.”

Profion anadl

– Yn ardal Heddlu Dyfed Powys cafodd 2751 o brofion eu cynnal ac roedd 68 yn bositif, neu roedd yr unigolyn wedi gwrthod neu wedi methu rhoi prawf.

– Yn ardal Heddlu Gwent cafodd 1,004 o brofion eu cynnal ac roedd 51 yn bositif;

– Cafodd 1,819 o brofion eu cynnal yn ardal Dyfed-Powys, ac roedd 109 yn bositif;

– Yn y Gogledd yr oedd y ganran o brofion positif ar ei isaf, sef 78 allan o gyfanswm o 3,958 o brofion.