Rhaid i’r BBC wneud mwy i herio ystadegau wrth gyflwyno adroddiadau, yn ôl ymchwil sydd wedi’i gwblhau gan Brifysgol Caerdydd.

Cafodd y brifysgol ei chomisiynu gan Ymddiriedolaeth y BBC i ymchwilio i’r modd y mae ffeithiau a ffigurau’n cael eu cyflwyno mewn straeon newyddion.

Yn ôl adroddiad sydd wedi cael ei lunio ar sail yr ymchwil, dylai cyflwynwyr wneud yn well wrth herio rhifau, yn enwedig wrth gyfweld â gwesteion.

Dywed yr adroddiad fod ystadegau “gwallus” wedi cael eu defnyddio neu bod gwesteion wedi defnyddio ffigurau mewn modd “camarweiniol” heb gael eu herio.

Cafodd y Gorfforaeth gyngor hefyd i herio ystadegau Llywodraeth Prydain cyn eu cyhoeddi er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau’n ddi-duedd.

Y canlyniadau…

Yn ôl yr ymchwil, mae 73% o’r ystadegau sy’n cael eu cyflwyno gan y BBC yn dod oddi wrth y Ceidwadwyr, a dywed Prifysgol Caerdydd fod yna “ddibyniaeth uchel” ar y llywodraeth am ystadegau.

Un o’r enghreifftiau a gafodd ei beirniadu oedd fod 43% o fewnfudwyr o Ewrop yn hawlio budd-daliadau yn ystod eu pedair blynedd cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

Nododd yr adroddiad fod y dull o ddod o hyd i’r ffigwr hwn yn wallus.

Mewn adroddiad arall ar feddygon iau, dywedodd y BBC fod bron i 3,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo – ond cymerodd hi bron i awr iddyn nhw ddweud ar eu rhaglen foreol fod 92% o lawdriniaethau yn cael eu cynnal.

Diffyg hyder

Diffyg hyder wrth drin rhifau oedd un o’r rhesymau a gafodd ei nodi yn yr adroddiad.

Ond dywedodd yr adroddiad bod cywirdeb ac egwyddor o fod yn ddi-duedd yn amlwg yng ngwaith y BBC.

Serch hynny, dywedodd yr adroddiad fod yna “rwystredigaeth” nad oedd safonau’n gyson drwyddi draw, a bod y defnydd o ystadegau’n gallu bod yn gamarweiniol ar adegau.

O ganlyniad i’r adroddiad, fe fydd staff y BBC yn derbyn hyfforddiant arbenigol ac fe fydd y Gorfforaeth yn mynd ati i ddadansoddi deunydd yn fwy manwl ac yn fwy aml.