Mae Heddlu Gwent yn apelio am help y cyhoedd, wedi i ddyn gael ei anafu yn ei stumog yn dilyn ymosodiad yng Nghwmbrân.

Roedd y dyn 20 oed yn cerdded ar hyd llwybr yn ardal Coed Efa o gwmpas 5.10yp ddydd Sul, pan ddaeth dyn arall i’w gyfarfod.

Yn ôl yr heddlu, dyn gwyn oedd yr ymosodwr, 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, o gorffolaeth denau, gyda gwallt brown ac acen leol. Roedd yn gwisgo hwdi du o wneuthuriad Adidas, trowsus tracwisg llwyd, a sgidiau du efo gwadnau gwyn.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Gwent ar y rhif, 101.