Mae arweinydd Plaid Cymru yn rhybuddio heddiw bod angen i’r arian sy’n dod o Ewrop dros y cyfnod nesa’ gael ei fuddsoddi mewn dull “mwy cynaliadwy nac a welwyd dros y blynyddoedd diwetha'”.

Yn ôl Leanne Wood, mae cronfeydd strwythurol yn y gorffennol wedi cael eu gweld fel ‘plastar ar y briw’ i drafferthion economaidd Cymru ac y dylai’r gyfran olaf gael ei fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith er mwyn sicrhau manteision cadarnhaol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Daw’r rownd gyfredol o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeadidd i ben yn 2020.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn Cymru a’i chymunedau wrth i’r DG fynd trwy’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Leanne Wood. “Mae hyn yn cynnwys gofalu fod y gyfran olaf o gronfeydd yr UE sydd i fod i ddod i lawr o Frwsel i Gymru yn cael ei gwario mewn dull mwy cynaliadwy nac a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol.

“Derbyniodd rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig ein cenedl biliynau o bunnoedd mewn arian Ewropeaidd i wella eu heconomi, ac eto, mae llawer yn yr un picil ag yr oeddent ddegawdau’n ôl.

“Ni lwyddodd Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i ddefnyddio’r cronfeydd hyn i ddilyn strategaeth economaidd lwyddiannus. Y canlyniad, wedi degawdau o dderbyn yr arian hwn yw bod Cymru yn dal ar waelod y gynghrair pan ddaw’n fater o berfformiad economaidd ar gymaint o ddangosyddion. Mae llawer o bobol o’r farn fod llawer o’r arian hwn wedi ei wastraffu ar brosiectau anghynaladwy.

“Y gyfran olaf hon o gronfeydd strwythurol fydd y gyfran bwysicaf,” meddai wedyn. “Mae’n hanfodol i’r arian gael ei wario yn strategol a’i fod yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn y seilwaith fydd yn cysylltu’r cenedlaethau i ddod, ac a fydd o les iddyn nhw.”