Mae llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau mai un o hofrenyddion yr Awyrlu sy’n cael ei defnyddio i hyfforddi peilotiaid sydd yng nghanol digwyddiad ar lethrau’r Wyddfa y prynhawn yma.

Yn ôl llefarydd: “Mae hofrennydd hyfforddi Griffin wedi cwblhau glaniad argyfwng yn ddiogel y prynhawn yma ar lethrau Eryri, yn dilyn problem dechnegol.

“Mae’r pedwar o bobol oedd ar ei bwrdd wedi dod allan yn ddiogel, a wedi hynny aeth yr awyren ar dân, ac mae’r gwasanaethau brys yno.”

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 2 o’r gloch, wedi adroddiadau fod mwg mawr yn codi o ardal Llwybr Watkin ar fynydd ucha’ Cymru.