Mae’n bosib na chafodd marwolaethau cannoedd o gleifion dan y Ddeddf Iechyd Meddwl eu cofnodi.

Mae marwolaeth pawb sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf, hyd yn oed marwolaethau naturiol, i fod i gael ei riportio i grwner, ond mae ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr yn awgrymu nad oedd crwneriaid wedi cael gwybod am bob achos.

Yn ôl ffigurau swyddogol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rhwng 2011 a 2014, bu farw 373 o bobol dan y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr.

Ond mae data sydd wedi’i roi i ddwylo’r Panel Ymgynghorol Annibynnol ar Farwolaethau mewn Gofal yn dangos y bu 1,115 o farwolaethau – 742 yn fwy na’r nifer gafodd ei gofnodi i grwneriaid.

Daw’r ffigurau hyn i’r amlwg ar ôl i’r Health Service Journal ddadansoddi ffigurau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

“Brawychus”

Yn ôl yr elusen Rethink Mental Illness mae’r ffigurau’n “frawychus” ac mae angen system annibynnol a thryloyw ar ymchwilio i farwolaethau pobol sy’n marw mewn gofal dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

“Os nad yw achosion yn cael eu cofnodi’n gywir ac yn cael eu hymchwilio, yna fydd gwersi ddim yn cael eu dysgu am ffyrdd o osgoi trychinebau yn y dyfodol,” meddai Brian Dow, cyfarwyddwr materion allanol yr elusen.

“Mae’n ddyletswydd arnom i’r bobol sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a’u teuluoedd i sicrhau hyn.

“Rydym am weld system gadarn, annibynnol a thryloyw dros ymchwilio i farwolaethau o fewn sefyllfaoedd iechyd meddwl, er mwyn i bob teulu gael atebion.”

‘Dim tystiolaeth’

Dywedodd Adran Iechyd Llywodraeth Prydain nad oes tystiolaeth o ddiffyg cofnodi marwolaethau dan y Ddeddf.

“Mae teuluoedd yn haeddu eglurhad os yw eu hanwyliaid yn marw dan ofal y Gwasanaeth Iechyd ac rydym yn disgwyl i bob marwolaeth mewn dalfeydd i gael eu hymchwilio’n drylwyr i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu,” meddai llefarydd.

“Mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn adolygu ansawdd a chywirdeb ymchwiliadau’r Gwasanaeth Iechyd dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, does ‘na ddim tystiolaeth bod llai (o farwolaethau) yn cael eu cofnodi.”