Bydd mwy na £29 miliwn ar gael ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru mewn bwrsarïau, ysgoloriaethau a chyllid caledi yn ystod blwyddyn academaidd 2017/2018.

Mae hyn yn 12% yn fwy o arian na fydd ar gael i fyfyrwyr yn ystod 2016/2017, sy’n dod i gyfanswm o £105 miliwn er mwyn ehangu mynediad i addysg uwch yng Nghymru.

Mae’r cynlluniau hyn a ffioedd prifysgolion Cymru ar gyfer 2017/18 bellach wedi cael sêl bendith gan y corff cyllido addysg uwch yng Nghymru, CCAUC, sy’n golygu eu bod bellach yn gallu eu cyhoeddi.

Un o brif amcanion prifysgolion Cymru ar gyfer 2017/18, yn ôl CCAUC, yw agor eu prifysgolion i bawb.

Mae hyn drwy weithio gydag ysgolion, cefnogi dysgwyr aeddfed i ddod yn ôl at addysg, gwella cysylltiadau â chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol a chael mwy o gyswllt â chymunedau.

Mae undebau myfyrwyr y prifysgolion wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu eu cynlluniau terfynol.

“Ehangu mynediad”

“Mae prifysgolion a cholegau’n parhau i ddarparu buddsoddiad sylweddol mewn ehangu mynediad a hybu addysg uwch,” meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC.

“Rydym yn eithriadol falch bod y darparwyr, yn y flwyddyn gyntaf hon o gynlluniau mynediad a ffioedd newydd, wedi cynyddu eu cyllid ar gyfer cefnogaeth wedi’i thargedu i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.

Ychwanegodd fod yn rhaid i brifysgolion “groesi trothwy uchel” er mwyn i CCAUC gymeradwyo eu cynlluniau mynediad a ffioedd.

“Fel rheoleiddiwr addysg uwch, rydym yn credu mewn parhau i weithio gyda sefydliadau i sicrhau bod eu gweithgareddau, a fynegir drwy gyfrwng eu cynlluniau mynediad a ffioedd, yn diwallu anghenion myfyrwyr, graddedigion, cyflogwyr a chymunedau.”