Mae’r chwilio am ddau fachgen aeth i drafferthion oddi ar arfordir y Bermo ddydd Sul, (Awst 7) bellach wedi dod i ben.

Daeth cadarnhad gan lefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau a ddywedodd bod “chwiliad helaeth ar dir, môr ac yn yr aer” wedi’i gynnal ond bellach “wedi’i derfynu, ar gais rhagor o wybodaeth.”

Mae timau achub wedi bod yn chwilio am y ddau fachgen 14 ac 15 oed ers dydd Sul, gyda chriwiau’n chwilio amdanyn nhw unwaith eto’r bore yma.

Mae’r bechgyn wedi’u henwi’n lleol fel Waseem Muflihi ac Yahya Mohammed, ac roedden nhw’n rhan o griw o tua 500 o bobol o gymunedau Somali ac Yemeni Birmingham oedd yn ymweld â gogledd Cymru’r diwrnod hwnnw.

Chwilio Bae Ceredigion ar ben

Yn y cyfamser, mae Gwylwyr y Glannau wedi cadarnhau bod y chwilio am ddyn aeth ar goll yn y môr ger Mwnt yng Ngheredigion hefyd wedi dod i ben.

Roedd y dyn yn cerdded y creigiau gyda dyn arall pan aeth i drafferthion a chael ei sgubo i’r môr mewn gwyntoedd cryfion.