Bydd pleidlais yn cael ei chynnal heno ar uno cymdeithas dai Cantref yng ngorllewin Cymru â chymdeithas dai Wales and West Housing.

Mae disgwyl i tua 40 o randdeiliaid Cantref fwrw eu pleidlais yn swyddfa’r gymdeithas yng Nghastell Newydd Emlyn am tua 5:30yp.

Mae Cantref yn gweithio yng Ngheredigion yn bennaf, ond mae hefyd yn cynnig llety i bobol yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin.

Mae pryder lleol wedi bod i’r uno posib, gyda grŵp ymgyrchu dros hawliau pobol ifanc i gartrefi yng Ngheredigion yn dweud y byddai cam o’r fath yn cael “effaith andwyol” ar denantiaid lleol.

Mae’r grŵp Ble Ti’n Mynd i Fyw yn poeni y byddai llai o bwyslais ar swyddi ac ethos lleol os bydd y ddwy gymdeithas yn uno, ac y byddai’r Gymraeg yn cael ei defnyddio a’i hybu llai.

Cantref yn amddiffyn uno

Ond mae Cantref yn mynnu bod y ddwy gymdeithas yn rhannu’r un ethos mai eu “tenantiaid sydd wrth wraidd popeth” a’u bod yn “hanfodol” y byddan nhw’n cael “y lefel uchaf o wasanaeth a chefnogaeth.”

“Nid yn unig y byddai uno yn sicrhau dyfodol hirdymor y gwasanaethau o’r ansawdd uchel y mae trigolion yn arfer gyda , ond yn cynnig cyfleoedd pellach i wneud gwahaniaeth yn diwallu anghenion tai yng Ngorllewin Cymru,” meddai Kevin Taylor, cadeirydd dros dro Cantref.

“Mae ein tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn ac mae’n hanfodol eu bod yn parhau i gael y lefel uchaf o wasanaeth a chefnogaeth. Mae’r ethos hwn yn cael ei rannu gan Tai Wales & West (WWH).”

Mae Wales and West Housing yn rheoli dros 9,500 o dai mewn 12 awdurdod lleol yng Nghymru, tra bod gan Cantref 1,406 o gartrefi.

Ysgrifennu at randdeiliaid

Mae ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ wedi ysgrifennu at randdeiliaid Cantref yn pwyso arnyn nhw i wrthod y cynnig o uno.

Yn ôl y grŵp, byddai llai o gyfleoedd am swyddi lleol os byddai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo ac y byddai’r “ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth Cymraeg i denantiaid a staff yn cael ei danseilio”.

Mae’n poeni hefyd y byddai llai o gefnogaeth yn mynd i fusnesau lleol, gan fod “gan Wales and West ei wasanaethau mewnol ei hunan o ran gwaith cynnal a chadw”.

Mae Cantref, er hynny, yn mynnu y byddai’r ffocws lleol a gwasanaeth Cymraeg yn parhau dan y newid arfaethedig.

“Rwyf yn gwybod bod Tai Wales & West yn gwerthfawrogi’r cyfoeth a’r profiad mae’r gweithlu lleol yn dod i Cantref ac maen nhw’n parhau i fod yn ymroddgar i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg,” meddai Kevin Taylor.

“Yr wyf hefyd yn sicr y bydd WWH cynnal y ffocws rhanbarthol a lleol cryf wrth fynd ymlaen, gan barhau i gefnogi busnesau lleol lle bynnag yn bosibl.”

‘Gwrthod’ pleidlais tenantiaid

Yn ôl ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’, dim ond rhanddeiliaid sy’n cael pleidleisio, ac mae ceisiadau gan denantiaid ac aelodau’r cyhoedd i ddod yn rhanddeiliaid wedi’u gwrthod “heb reswm digonol”.

Fe wnaeth Cantref ddim cynnig ateb i hyn. Doedd Wales and West Housing ddim am ymateb i’r un sylw gan ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’.