Mae’r chwilio’n parhau y bore yma am ddau lanc aeth ar goll oddi ar arfordir y Bermo ddydd Sul.

Mae’r bachgen 15 oed wedi’i enwi’n lleol fel Waseem Muflihi a’r bachgen 14 oed wedi’i enwi’n lleol fel Yahya Mohammed.

Mae lle i gredu bod y bechgyn yn rhan o griw o tua 500 o bobol o gymunedau Somali ac Yemeni Birmingham oedd yn ymweld â gogledd Cymru’r diwrnod hwnnw.

Bydd Gwylwyr y Glannau yn ailddechrau chwilio y bore yma, ac er nad yw criw’r RNLI wedi cael cais i anfon eu badau achub allan hyd yn hyn, dywedodd llefarydd ar eu rhan y byddan nhw’n barod i wneud hynny ac yn aros am yr alwad.

Mae timau achub wedi bod yn chwilio am y bechgyn ers dydd Sul, pan gafodd yr alwad gyntaf i’r gwasanaethau brys ei gwneud am 13.40pm.

Bae Ceredigion

A does dim cadarnhad hyd yn hyn a oes timau achub wedi ailddechrau’r chwilio am ddyn mewn digwyddiad arall aeth i drafferthion oddi ar draeth Mwnt ger Aberteifi dydd Sul.

Roedd y dyn yn cerdded y creigiau gyda dyn arall pan aeth i drafferthion a chael ei sgubo i’r môr mewn gwyntoedd cryfion.

Mae timau achub wedi bod yn chwilio amdano yntau ers dydd Sul, ond heb ddod o hyd iddo hyd yn hyn.