Mae’r badau achub oddi yn chwilio am ddau lanc ar goll oddi ar arfordir y Bermo, ac am ddyn arall ar goll oddi ar arfordir Bae Ceredigion wedi dychwelyd i’w gorsafoedd ers rhai oriau bellach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI fod y badau achub wedi dychwelyd i’w gorsafoedd yn dilyn gorchymyn gan Wylwyr y Glannau sy’n cydlynu’r chwilio.

Does dim sôn hyd yn hyn am y ddau fachgen 14 ac 15 oed sydd wedi bod ar goll ers prynhawn ddoe pan aethon nhw i drafferthion wrth nofio oddi ar draeth y Bermo yng Ngwynedd.

Mae lle i gredu bod y ddau yn dod o ardal Birmingham ac yn rhan o griw ehangach oedd yn ymweld â gogledd Cymru’r diwrnod hwnnw.

Bae Ceredigion

Mae’r timau achub oedd yn chwilio am ddyn aeth ar goll oddi ar fae Ceredigion hefyd wedi dychwelyd i’w gorsafoedd.

Roedd y dyn yn cerdded gyda dyn arall pan gafodd ei sgubo i’r môr ym Mwnt ger Aberteifi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI bod y badau achub wedi dychwelyd i’w gorsafoedd am y tro oherwydd llanw uchel, ond y byddan nhw’n disgwyl galwad arall heno i barhau â’r chwilio.