Mae’r grefft o lefaru yn cael ei gwthio o’r neilltu gan y cyfryngau, yn ôl hyfforddwraig a chyn gystadleuydd oedd wedi gwylltio a’i siomi wrth wylio rhaglen uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau neithiwr.

Mewn sylw pigog ar wefan gymdeithasol Facebook neithiwr, tra’r oedd y rhaglen ar yr awyr, roedd Delyth Mai Nicholas o Bontarddulais yn dweud i’r rhaglen “anwybyddu’r cystadlaethau llefaru yn llwyr”.

“Oedden nhw’n mynd o ddiwrnod i ddiwrnod yn dangos yr uchafbwyntiau, ond fe wnaethon nhw anwybyddu llefaru yn llwyr tan y dydd Sadwrn olaf pan ddangoswyd clip o Steffan Rhys Hughes wedi iddo ennill cystadleuaeth y Llwyd o’r Bryn,” meddai wrth golwg360.

“Ac rwy’n gwybod am dair cystadleuaeth lefaru oedd ar y dydd Llun, sawl un ar ddydd Mawrth a Mercher ac roedd y partïon a’r côr llefaru wrthi ar y dydd Gwener – ond doedd dim sôn amdanyn nhw.

“Roeddwn i’n siomedig iawn, ac rwy’n teimlo fel pe bai llefaru yn cael ei wthio o’r neilltu a’i ddilorni,” meddai wedyn.

Angen ‘cydnabod y potensial’

Ar lwyfan y brifwyl brynhawn dydd Sadwrn, tra’n traddodi beirniadaeth Rhuban Glas y llefarwyr, Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn, roedd un o’r beirniaid, Carwyn John, wedi cyfeiriodd at yr angen i roi mwy o sylw i’r grefft ar y cyfryngau.

“Mae llawer o wawdio wedi bod ar y grefft ar wefannau cymdeithasol yn y blynyddoedd diweddar, ac ambell flwyddyn does dim sôn wedi bod am y llefarwyr ar raglenni uchafbwyntiau’r brifwyl,” meddai.

“Am hynny, dw i’n galw ar gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr theatr, radio a theledu i gydnabod y potensial sydd yna yn y byd llefaru; i fynd ati o ddifri’ i feithrin llefarwyr i fod yn actorion a chyflwynwyr y dyfodol ac i ddangos i gynulleidfaoedd ehangach bod yna werth i lefaru, a llwybr naturiol i’r grefft, yn hytrach na dim ond llwyfan y pafiliwn mawr yma a llwyfannau llai’r eisteddfodau bach.

“Dewch i ni gydweithio i greu to newydd o unigolion sydd nid yn unig yn gallu ymdrin â geiriau, ond sydd hefyd yn gallu defnyddio pwyslais a goslef mewn ffordd ddeallus heb ferwino clustiau ein gwrandawyr a’n cynulleidfaoedd, fel sy’n digwydd yn llawer rhy aml y dyddiau hyn,” meddai Carwyn John wedyn.

‘Sylw i bob cystadleuaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru, a oedd yn gyfrifol am y rhaglen uchafbwyntiau, “yn ystod wythnos Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni, fe roddwyd sylw i bob cystadleuaeth ar deledu, radio ac yn ddigidol, gan gynnwys pob un o’r cystadlaethau llefaru.”

“Bwriad rhaglen Pigion Yr Wythnos ar deledu yw cyflwyno rhai uchafbwyntiau o weithgareddau’r ŵyl yn ei holl ogoniant, o bob llwyfan, pafiliwn a phabell gydol yr wythnos ac rydym yn hapus ein bod wedi rhoi darlun cytbwys o lwyddiannau’r ŵyl eleni,” ychwanegodd y llefarydd.