Mae timoedd achub wedi ailddechrau chwilio am dri dyn sydd wedi bod ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru a Bae Ceredigion ers ddoe.

Bu’n rhaid i wylwyr y glannau ohirio chwilio am ddau lanc 14 ac 15 oed dros nos neithiwr oddi ar arfordir y Bermo yng Ngwynedd, ond mae’r chwilio wedi ailddechrau y bore yma.

Yn ôl adroddiadau, roedd y bechgyn yn dod o ardal Birmingham ac yn rhan o griw aeth i drafferth wrth nofio yn y môr.

Dyn ar goll oddi ar Bae Ceredigion

Ac yn gynnar y bore yma, daeth cadarnhad gan bod badau achub yr RNLI yn ôl ar y môr yn chwilio am ddyn aeth i drafferth ar yr arfordir ger Aberteifi ddoe.

Mae lle i gredu fod y dyn yn un o ddau a fu’n cerdded ar y creigiau ger Mwnt cyn iddo gael ei sgubo i’r môr.

Mae badau achub o Gwbert, Ceinewydd a Dinbych y Pysgod yn chwilio amdano’r bore yma.