Elfed Roberts - y gobaith yw maes rhad ac am ddim
Fe fydd prif neuaddau Canolfan y Mileniwm a phrif adeiladau Cynulliad Cymru i gyd yn rhan o faes Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd.

Gobaith y trefnwyr hefyd yw y bydd mynediad i’r maes cyfan ac i’r holl bebyll a neuaddau llai yn rhad ac am ddim.

Wrth i Lys yr Eisteddfod roi cefnogaeth i’r syniad, fe ddyweodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod yr eisteddfod yn gyfle ardderchog i ddenu pobol newydd i’r ŵyl.

Fe roddodd sicrwydd hefyd y bydd maes carafannau – ymg Nghaeau Pontcanna – a Maes B, mewn safle sydd heb ei bennu’n derfynol eto.

Ble bydd popeth

Fe fydd y pafiliwn yn Neuadd Donald Gordon, prif neuadd Canolfan y Mileniwm, a’r prif ganolfannau eraill, fel y Theatr a’r Babell Lên hefyd yn debyg o fod mewn ystafelloedd eraill yno.

Mae’n debygol y bydd y Lle Celf yn adeilad y Senedd ac mae dau o brif adeiladau eraill y Cynulliad hefyd ar gael – Tŷ Hywel, lle’r oedd y Cynulliad yn cyfarfod ar y dechrau, ac adeilad bric coch y Pierhead.

Y nod, meddai Elfed Roberts, yw fod pobol yn talu am seddi cadw yn y Pafiliwn ac am gyngherddau fin nos ond y gallai seddi eraill fod am ddim – yr unig bosibilrwydd, meddai, yw tâl bychan am fandiau garddwrn er mwyn rheoli niferoedd yn y Pafiliwn.

Am ddim

Y nod yw fod arbedion ar adeiladu maes yn golygu bod modd rhoi mynediad am ddim i’r maes a fyddai’n cynnwys y bowlen hirgron y tu allan i Ganolfan y Mileniwm a’r tir agored o’i chwmpas.

“Y bwriad ydi y bydd pobol hefyd yn gallu mynd i lefydd fel y Babell Lên heb dâl. Mae maes di-ffens, rhad ac am ddim yn symud un o’r rhwystrau sy’n cadw rhai pobol draw.

“Mae hwn yn gyfle arbennig i ddenu cynulleidfa newydd,” meddai Elfed Roberts.