Ifan Davies yw canwr Sŵnami
Sŵnami sydd wedi cipio tlws Albym Cymraeg Orau’r Flwyddyn mewn seremoni yng nghaffi Maes B yn yr Eisteddfod heddiw.

Roedd naw o artistiaid eraill ar y rhestr fer – 9 Bach, Alun Gaffey, Band Pres Llareggub, Brython Shag, Calan, Cowbois Rhos Botwnnog, Datblygu, Plu a Yucatan.

Ac mae’r grŵp wedi cael blwyddyn lwyddiannus eleni, am mai nhw oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror gan gipio’r ‘Gân Orau’, ‘Record Hir Orau’, ‘Gwaith Celf Gorau’ a’r ‘Band Gorau’.

Albwm pop ei naws

“Mae albwm Sŵnami wedi creu argraff eleni’n bendant,” meddai Guto Brychan, un o drefnwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn.

“Mae’r caneuon i gyd yn hynod boblogaidd eu naws ac yn apelio at gynulleidfa eang iawn,” ychwanegodd.

Dyma’r tro cyntaf i albwm pop ei naws ennill yng nghyfnod o ddwy flynedd y gystadleuaeth, wedi i Gwenno Saunders ennill y llynedd a The Gentle Good ennill y flwyddyn gynt.

Y beirniaid eleni oedd Casi Wyn, Dwynwen Morgan, Elan Evans, Sioned Webb, Elliw Iwan, Siôn Llwyd, Gwion Llwyd, Ifan Dafydd a Richard Rees,