Band Pres Llareggub ar y Maes.
Yn diddanu’r dorf wrth Brif Fynedfa’r Eisteddfod heddiw oedd criw Band Pres Llareggub.

Mae’r band sy’n cymysgu hip-hop, jazz a mwy yn cydnabod fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn “un o uchafbwyntiau’r haf” iddyn nhw.

Ac am saith o’r gloch heno, bydd y band yn perfformio ar lwyfan y maes cyn gig Huw Chiswell.

“Mae’n dipyn o gyfrifoldeb i gynhesu fyny i Huw Chiswell, a dydan ni heb wneud slot nos Wener o’r blaen,” meddai Gethin Evans, drymar y band.

Er hyn, dywedodd fod y criw yn edrych ymlaen at berfformio ar lwyfan y maes oherwydd “ers talwm, dim ond y babell roc oedd yn bod, ond rŵan mae llwyfan y maes yn gyfle i fynd â’r gerddoriaeth at y bobl”.

Cloi Maes B

Heddiw yw diwrnod cyntaf y band ar y maes, ac mae eu hamserlen yn orlawn o fân berfformiadau yma ac acw.

“Mae’n eithaf hawdd inni setio i fyny mewn gwahanol lefydd oherwydd dydan ni ddim yn ddibynnol ar drydan,” meddai Gethin Evans.

Band Pres Llareggub fydd yn cloi gig Maes B nos yfory a “mae’n llygaid ni gyd ar hwnnw,” ychwanegodd.

Dywedodd Gethin Evans fod yr ymateb i’w halbwm newydd, Kurn, wedi bod yn dda a’r mil o gopïau “yn agos iawn at eu gwerthu i gyd.”

Maen nhw hefyd yn edrych ymlaen at gefnogi’r Super Furry Animals mewn gig Heavenly Records ar lan yr Afon Tafwys ddydd Sul yn Llundain.

“Yn amlwg, rydan ni’n fans mawr o Super Furry Animals. Maen nhw’n eithaf arwyr inni, felly mae’n grêt i rannu llwyfan.”