Mae’n debyg bod rhai o brifysgolion Cymru yn ystyried rhoi ysgoloriaethau i ffoaduriaid sydd wedi dod yma i fyw.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod yn ystyried sefydlu ysgoloriaethau i ffoaduriaid, ac yn ôl y BBC, mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gynllun tebyg.
Dywedodd Prifysgol Bangor bod ganddi ysgoloriaethau gwahanol wedi’u hanelu’n benodol at fyfyrwyr rhyngwladol a bod modd “cynnig cymorth ychwanegol mewn amgylchiadau arbennig”.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd bod eisoes ganddi ddarpariaethau ariannol ar gyfer ffoaduriaid.
Does dim cynlluniau gan Brifysgol Glyndŵr, yn Wrecsam, i ddarparu ysgoloriaethau o’r fath ar hyn o bryd.
Does dim ysgoloriaethau penodol ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd chwaith, ond dywedodd llefarydd nad oedd hynny’n atal unigolion rhag gwneud cais am rai sydd eisoes ar gael.
Aberystwyth – “paratoi cynnig manwl”
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth ei bod wedi trafod â’r Uned Ryngwladol a’r Cyngor Prydeinig yn Llundain, ac wedi bod yn edrych ar yr un fath o ysgoloriaethau mewn sefydliadau Addysg Uwch eraill.
“Rydym hefyd yn trafod â Universities UK, sy’n cydlynu datblygiad ysgoloriaethau o’r fath ledled y DU,” meddai llefarydd.
Bydd y Brifysgol yn paratoi cynnig manwl, gan gynnwys y goblygiadau ariannol, i’w ystyried dros y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru am eu cynlluniau nhw.
Mae pob un o gynghorau Cymru wedi ymrwymo i ymgartrefu ffoaduriaid o Syria, ac mae tua 78 wedi dod i’r wlad hyd yn hyn.